Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 1 Chwefror 2017
Amser: 09.22 -
12.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3830
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Michelle Brown AC Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Andrew RT Davies AC (yn lle Darren Millar AC) |
Tystion: |
Neil Foden, NUT Cymru Rachel Curley, Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr Cymru Ywain Myfyr, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) Rex Phillips, NASUWT Dr Mair Parry, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant |
Staff y Pwyllgor: |
Jon Antoniazzi (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Joe Champion (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (999KB) Gweld fel HTML (999KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Daeth ymddiheuriadau i law gan Darren Millar, ac roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo ar ei ran. Hefyd cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan, ac nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel o undebau addysg.
Cytunodd aelodau'r panel i ddarparu nodyn ynglŷn â'r materion a ganlyn:
· nifer yr athrawon sydd wedi colli eu swyddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf (Byddai proffil o bum mlynedd yn ddefnyddiol);
· y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ganfod nifer yr athrawon sy'n colli eu swyddi.
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
Nodwyd y papurau.
Cytunodd y Pwyllgor i drafod y llythyr hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig.
Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.
Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad.